Cyfathrebu gyda ni yn Ysgol Glantaf

Rydym yn croesawu eich bod yn cysylltu a ni am unrhyw ymholiad neu gais am eglurder a byddwn yn ceisio ymateb yn brydlon ac yn effeithiol ar bob achlysur.

Bwriad y wefan hon yw darparu llawer o wybodaeth gyffredinol am yr ysgol ac o dan y adran “Cysylltwch â ni” fe fyddwch yn canfod manylion cyswllt arweinwyr allweddol a fydd efallai yn gallu helpu gyda eich cais.

Gallwch hefyd ddilyn ein cyfrifon trydar am y wybodaeth ddiweddaraf am gemau a digwyddiadau yn yr ysgol. Prif sianel cysylltu yw ap Classcharts App ac mae manylion am y llwyfan hwn hefyd ar ein gwefan.

Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy godi’r ffôn a chysylltu â’r Brif Dderbynfa ar 029 20 333090

Os ydych am gwrdd ag aelod o staff neu gael cyfarfod wyneb yn wyneb am unrhyw fater, gofynnwn yn garedig i chi gysylltu o flaen llaw i drefnu apwyntiad neu amser cyfleus, a hynny er mwyn osgoi siwrne seithug neu oedi estynedig heb aelod o staff addas i gwrdd â chi. Diolch am eich dealltwriaeth.

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i gymuned Glantaf.